1 Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno'n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’”.
2 Dyma fi'n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia.
3 Wedyn dyma fi'n gorwedd gyda'm gwraig a dyma hi'n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe'n Maher-shalal-has-bas,
4 achos cyn i'r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.”