14 Bydd e yn gysegr –ond i ddau deulu brenhinol Israelbydd yn garreg sy'n baglu pobla chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.Bydd fel trap neu fagli'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem.
15 Bydd llawer yn baglu,yn syrthio ac yn cael eu dryllio;ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.”
16 Bydd y rhybudd yma'n cael ei rwymo, a'r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a'i gadw gan fy nisgyblion i.
17 Dw i'n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i'n ei drystio fe!
18 Dyma fi, a'r plant mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i mi. Maen nhw'n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n byw ar Fynydd Seion.
19 Bydd pobl yn dweud wrthoch chi,“Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaidsy'n sgrechian a griddfan.Oni ddylai pobl geisio eu ‛duwiau‛ –holi'r meirw ar ran y byw?”
20 “At y gyfraith a'r dystiolaeth!Os nad ydyn nhw'n siarad yn gyson â'r neges ymamaen nhw yn y tywyllwch.”