2 Dyma fi'n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia.
3 Wedyn dyma fi'n gorwedd gyda'm gwraig a dyma hi'n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe'n Maher-shalal-has-bas,
4 achos cyn i'r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.”
5 A dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda mi eto:
6 “Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa,sy'n llifo'n dawel,ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.
7 Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryfyr Ewffrates lifo trostyn nhw –sef brenin Asyria a'i fyddin.Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau,ac yn gorlifo'i glannau.
8 Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogyddac yn codi at y gwddf.Mae ei adenydd wedi eu lledudros dy dir i gyd, Emaniwel!”