9 Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio!Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd:Paratowch i ryfel – ond cewch eich dryllio;Paratowch i ryfel – ond cewch eich dryllio!
10 Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu!Cytunwch beth i'w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo.Achos mae Duw gyda ni!
11 Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai'n gafael ynof fi a'm rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â'r bobl yma:
12 “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’bob tro mae'r bobl yma'n dweud fod cynllwyn!Does dim rhaid dychryn na bod ag ofnbeth maen nhw'n ei ofni.
13 Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy'r un i'w barchu!Fe ydy'r unig un i'w ofni,a dychryn rhagddo!
14 Bydd e yn gysegr –ond i ddau deulu brenhinol Israelbydd yn garreg sy'n baglu pobla chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.Bydd fel trap neu fagli'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem.
15 Bydd llawer yn baglu,yn syrthio ac yn cael eu dryllio;ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.”