1 Ond fydd y tywyllwch ddim yn parai'r tir aeth drwy'r fath argyfwng!Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulona thir Nafftali eu cywilyddio;ond yn y dyfodol bydd Duwyn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd,ar Ffordd y Môr,a'r ardal yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
2 Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwchwedi gweld golau llachar.Mae golau wedi gwawrioar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.
3 Ti wedi lluosogi'r genedl,a'i gwneud yn hapus iawn;Maen nhw'n dathlu o dy flaen difel ffermwyr adeg y cynhaeaf,neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail.
4 Achos rwyt ti wedi torri'r iauoedd yn faich arnyn nhw,a'r ffon oedd yn curo eu cefnau nhw– sef gwialen y meistr gwaith –fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian.
5 Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd,a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed,yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi.