10 “Mae'r blociau pridd wedi syrthio,ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd!Mae'r coed sycamor wedi eu torri i lawr,ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”
11 Gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi.Roedd e wedi arfogi ei gelynion –
12 daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin –Roedd eu cegau'n llydan agored,a dyma nhw'n llyncu tir Israel.Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
13 Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôlat yr un wnaeth eu taro nhw;Dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD holl-bwerus.
14 Felly bydd yr ARGLWYDD yn torripen a chynffon Israel;y gangen balmwydd a'r frwynenar yr un diwrnod.
15 Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen;y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon.
16 Mae'r arweinwyr wedi camarwain,a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl.