13 Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôlat yr un wnaeth eu taro nhw;Dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD holl-bwerus.
14 Felly bydd yr ARGLWYDD yn torripen a chynffon Israel;y gangen balmwydd a'r frwynenar yr un diwrnod.
15 Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen;y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon.
16 Mae'r arweinwyr wedi camarwain,a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl.
17 Dyna pam nad ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc;Dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon.Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg;maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl.Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
18 Mae drygioni yn llosgi fel tân,ac yn dinistrio'r drain a'r mieri;mae'n llosgi drwy ddrysni'r coednes bod y mwg yn codi yn golofnau.
19 Pan mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi digio,mae'r wlad yn llosgi.Mae'r bobl fel tanwydd,a does neb yn poeni am neb arall.