18 Mae drygioni yn llosgi fel tân,ac yn dinistrio'r drain a'r mieri;mae'n llosgi drwy ddrysni'r coednes bod y mwg yn codi yn golofnau.
19 Pan mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi digio,mae'r wlad yn llosgi.Mae'r bobl fel tanwydd,a does neb yn poeni am neb arall.
20 Maen nhw'n torri cig fan yma,ond yn dal i newynu;maen nhw'n bwyta fan acwond ddim yn cael digon.Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd –
21 Manasse'n ymosod ar Effraimac Effraim ar Manasse,a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda!Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.