6 Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni;mab wedi cael ei roi i ni.Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.A bydd yn cael ei alw ynStrategydd rhyfeddol, y Duw arwrol,Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.
7 Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu,a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-drawi orsedd Dafydd a'i deyrnas.Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhaua teyrnasu'n gyfiawn ac yn dego hyn allan, ac am byth.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynolo wneud hyn i gyd.
8 Dyma'r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel.
9 Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Er yn dal yn falch ac ystyfnig, yn honni:
10 “Mae'r blociau pridd wedi syrthio,ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd!Mae'r coed sycamor wedi eu torri i lawr,ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”
11 Gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi.Roedd e wedi arfogi ei gelynion –
12 daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin –Roedd eu cegau'n llydan agored,a dyma nhw'n llyncu tir Israel.Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,roedd yn dal yn eu herbyn nhw.