1 Dyma enwau meibion Israel, aeth i'r Aifft gyda'u tad Jacob a'u teuluoedd:
2 Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,
3 Issachar, Sabulon a Benjamin,
4 Dan a Nafftali, Gad ac Asher.
5 Saith deg o feibion ac wyrion i Jacob i gyd (Roedd Joseff eisoes yn yr Aifft).
6 Yna dyma Joseff a'i frodyr a'r genhedlaeth yna i gyd yn marw.
7 Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw'n cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman – yn llenwi'r wlad!