1 “Felly mae Betsalel, Aholïab a'r crefftwyr eraill mae Duw wedi eu donio i wneud y gwaith o godi'r cysegr, i wneud popeth yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”
2 Dyma Moses yn galw Betsalel ac Aholïab ato, a'r crefftwyr eraill roedd yr ARGLWYDD wedi eu donio – pob un oedd wedi ei sbarduno i wirfoddoli i helpu.
3 A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wedi eu hoffrymu i'r gwaith o godi'r cysegr.Ond roedd y bobl yn dod â mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore.
4 Felly dyma'r crefftwyr oedd yn gweithio ar y cysegr yn gadael eu gwaith,
5 a dweud wrth Moses, “Mae'r bobl wedi dod â mwy na digon i orffen y gwaith mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni ei wneud!”
6 Felly dyma Moses yn anfon neges allan drwy'r gwersyll, “Does dim angen mwy o bethau i'w cyflwyno'n rhoddion tuag at adeiladu'r cysegr!” Roedd rhaid stopio'r bobl rhag dod â mwy!
7 Roedd mwy na digon o bethau ganddyn nhw i wneud y gwaith i gyd.
8 Dyma'r crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl gyda deg llen o'r lliain main gorau gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
9 Roedd pob llen yn un deg dau metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
10 Yna dyma bump o'r llenni yn cael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.
11 Wedyn gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set –
12 hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd.
13 Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
14 Wedyn gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw.
15 Roedd pob llen yn un deg pump metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
16 Yna gwnïo pump o'r llenni at ei gilydd, a gwnïo'r chwech arall at ei gilydd hefyd.
17 Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set,
18 a hanner can bachyn i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.
19 Wedyn gwneud gorchudd dros y babell wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch. Ac wedyn gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw.
20 Yna cafodd fframiau'r Tabernacl eu gwneud allan o goed acasia, pob un yn sefyll yn unionsyth.
21 Roedd pob un yn bedwar metr o hyd, a 66 centimetr o led,
22 gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd. Roedd y fframiau i gyd wedi eu gwneud yr un fath.
23 Roedd dau ddeg ffrâm ar ochr ddeheuol y Tabernacl,
24 a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.
25 Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol,
26 gyda pedwar deg soced i'w dal nhw – dwy soced dan bob ffrâm.
27 Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol,
28 a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn.
29 Yn y corneli roedd y ddau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Roedd y ddwy gornel yr un fath.
30 Felly roedd wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.
31-32 Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
33 Roedd y croesfar ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.
34 Yna gorchuddio'r fframiau gyda haen o aur, a gwneud cylchoedd o aur i ddal y croesfarrau, a gorchuddio'r croesfarrau gydag aur hefyd.
35 Wedyn gwneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
36 A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a pedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw.
37 Yna gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Hon eto wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei brodio gydag edau las, porffor a coch.
38 Yna gwneud pump polyn o goed acasia, a'r bachau aur. Gorchuddio top y polion gydag aur, a gwneud socedi o bres iddyn nhw.