Exodus 10 BNET

Locustiaid

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo. Dw i wedi ei wneud e a'i swyddogion yn ystyfnig, er mwyn iddyn nhw weld yr arwyddion gwyrthiol dw i'n eu gwneud.

2 Hefyd er mwyn i ti allu dweud am beth ddigwyddodd wrth dy blant a'u plant hwythau, sut roeddwn i wedi gwneud ffyliaid o'r Eifftiaid. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”

3 Felly dyma Moses ac Aaron yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: ‘Am faint wyt ti'n mynd i wrthod plygu i mi? Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!

4 Os fyddi di'n gwrthod, gwylia dy hun! Bydda i'n anfon locustiaid drwy dy wlad di yfory.

5 Byddan nhw dros bobman! Fyddi di ddim yn gallu gweld y llawr! Byddan nhw'n dinistrio popeth wnaeth ddim cael ei ddifetha gan y cenllysg. Fydd yna ddim byd gwyrdd ar ôl, a dim blagur ar y coed.

6 Byddan nhw drwy dy balas di, tai dy swyddogion a tai pawb arall yn yr Aifft. Fydd dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn holl hanes gwlad yr Aifft!’” Yna dyma Moses yn troi ac yn gadael y Pharo.

7 A dyma swyddogion y Pharo yn dweud wrtho, “Am faint mae hyn i fynd ymlaen? Gad iddyn nhw fynd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. Wyt ti ddim yn gweld y bydd hi ar ben ar y wlad yma?”

8 Dyma nhw'n dod â Moses ac Aaron yn ôl at y Pharo. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD eich Duw. Ond pwy yn union fydd yn mynd?”

9 “Bydd pawb yn mynd,” meddai Moses, “hen ac ifanc, ein plant a'n hanifeiliaid. Dŷn ni'n mynd i gynnal gŵyl i'r ARGLWYDD.”

10 “Duw a'ch helpo os ydych chi'n meddwl y gwna i adael i'ch plant fynd gyda chi! Gwyliwch chi! Byddwch chi mewn trwbwl wedyn!

11 Na! Dim ond y dynion sydd i gael mynd i addoli'r ARGLWYDD. Dyna dych chi eisiau ynte?” A dyma fe'n gyrru'r ddau allan o'i olwg.

12 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law dros wlad yr Aifft i wneud i'r locustiaid ddod. Byddan nhw dros bobman, ac yn difetha popeth sy'n dal i dyfu ar ôl y cenllysg.”

13 Felly dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt o'r dwyrain chwythu drwy'r dydd a'r nos. Erbyn iddi wawrio y bore wedyn roedd y gwynt wedi dod â'r locustiaid i'r wlad.

14 Dyma nhw'n mynd drwy'r wlad i gyd, o un pen i'r llall. Fuodd yna erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd yna ddim un tebyg byth eto.

15 Roedden nhw dros bobman! Roedd y ddaear yn ddu gan locustiaid, a dyma nhw'n difetha pob planhigyn a phob ffrwyth ar bob coeden oedd yn dal yna wedi'r cenllysg. Doedd yna ddim planhigyn na deilen werdd ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd!

16 Dyma'r Pharo yn galw Moses ac Aaron ar frys. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a chithau.

17 Plîs maddeuwch i mi yr un tro yma, a dim ond gweddïo y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cymryd y pla marwol yma i ffwrdd.”

18 Felly dyma Moses yn gadael y Pharo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.

19 A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r gwynt droi, a chwythu'n gryf o gyfeiriad y gorllewin. Dyma'r gwynt yn codi'r locustiaid a'u chwythu nhw i gyd i'r Môr Coch. Doedd yna ddim un locust ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd!

20 Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd.

Tywyllwch

21 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law i fyny i'r awyr, a gwneud i dywyllwch ddod dros wlad yr Aifft – tywyllwch dychrynllyd!”

22 Felly dyma Moses yn estyn ei law i fyny i'r awyr, ac roedd hi'n dywyll fel y fagddu drwy wlad yr Aifft am dri diwrnod.

23 Doedd pobl ddim yn gallu gweld ei gilydd, a doedd neb yn gallu mynd allan am dri diwrnod! Ond roedd hi'n olau lle roedd pobl Israel yn byw.

24 Dyma'r Pharo yn galw am Moses, a dweud, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD. Cewch fynd â'ch plant gyda chi, ond dw i am gadw'r anifeiliaid yma.”

25 Dyma Moses yn ateb, “Wyt ti ddim am roi anifeiliaid i ni i'w haberthu a'u cyflwyno'n offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ein Duw?

26 Rhaid i'r anifeiliaid fynd gyda ni. Does dim un i gael ei adael ar ôl. Rhaid i ni ddewis rhai ohonyn nhw i'w haberthu i'r ARGLWYDD, a dŷn ni ddim yn gwybod pa rai nes byddwn ni wedi cyrraedd yno.”

27 Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Doedd e ddim am adael iddyn nhw fynd.

28 Meddai'r Pharo, “Dos o ngolwg i! Dw i byth eisiau dy weld di yma eto! Os gwela i di eto, bydda i'n dy ladd di!”

29 “Iawn,” meddai Moses, “fyddi di byth yn fy ngweld i eto.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40