Exodus 27 BNET

Yr Allor

1 “Mae'r allor i gael ei gwneud o goed acasia. Mae hi i fod yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder.

2 Mae cyrn i fod ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna rwyt i'w gorchuddio gyda pres.

3 Mae'r offer i gyd i'w gwneud o bres hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân.

4 Hefyd gratin, sef rhwyll wifrog o bres gyda pedair cylch bres ar y corneli.

5 Mae i'w gosod o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr.

6 Yna gwneud polion i'r allor, allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres.

7 Mae'r polion i gael eu gwthio drwy'r cylchoedd fel bod polyn bob ochr i'r allor i'w chario hi.

8 Dylai'r allor gael ei gwneud gyda planciau pren, fel ei bod yn wag y tu mewn. Dylid ei gwneud yr union fel cafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.

Yr Iard o gwmpas y Tabernacl

9 “Yna rhaid gwneud iard y Tabernacl gyda llenni o'i chwmpas wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. Ar yr ochr ddeheuol

10 bydd dau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni.

11 Yna'r un fath ar yr ochr ogleddol.

12 Ar y cefn, yn wynebu'r gorllewin, mae lled yr iard i fod yn ddau ddeg dau metr o lenni, a deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres.

13-15 Yna ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât.

16 Yna sgrîn y giât yn naw metr o lenni yn hongian ar bedwar postyn mewn pedair soced bres. Bydd y llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch.

17 Bydd y polion o gwmpas yr iard i gyd wedi eu cysylltu gyda ffyn arian a bachau arian arnyn nhw, ac wedi eu gosod mewn socedi pres.

18 Bydd yr iard yn bedwar deg pedwar metr o hyd ac yn ddau ddeg dau metr o led. Mae uchder y llenni i fod yn ddau pwynt dau metr, yn cael eu dal i fyny gan bolion mewn socedi pres.

19 Mae offer y Tabernacl i gyd (popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y defodau), a'r pegiau, i gael eu gwneud o bres.

Cadw'r lampau'n llosgi

20 “Hefyd, dywed wrth bobl Israel am ddod ag olew olewydd pur i ti, fel bod y lampau wedi eu goleuo'n gyson.

21 Ym mhabell presenoldeb Duw, tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth, bydd Aaron a'i feibion yn cadw'r lampau'n llosgi o flaen yr ARGLWYDD drwy'r nos. Dyna fydd y drefn bob amser i bobl Israel, ar hyd y cenedlaethau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40