1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos di yn dy flaen – ti a'r bobl wnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Ewch i'r wlad wnes i addo i Abraham, Isaac a Jacob, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’
2 Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, a gyrru allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.
3 Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond dw i ddim am fynd gyda chi. Dych chi'n bobl ystyfnig, a falle y bydda i'n eich dinistrio chi ar y ffordd.”
4 Dyna oedd newyddion drwg! Pan glywodd y bobl hynny, dyma nhw'n dechrau galaru. Doedd neb yn gwisgo tlysau,
5 am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dych chi'n bobl ystyfnig. Petawn i'n mynd gyda chi dim ond am foment, falle y byddwn i'n eich dinistrio chi. Felly tynnwch eich tlysau i ffwrdd, i mi benderfynu beth i'w wneud gyda chi.’”
6 Felly dyma bobl Israel yn tynnu eu tlysau i gyd i ffwrdd pan oedden nhw wrth Fynydd Sinai.
7 Byddai Moses yn cymryd y babell, ac yn ei chodi tu allan i'r gwersyll, gryn bellter i ffwrdd. Galwodd hi yn babell cyfarfod Duw. Os oedd rhywun eisiau gwybod rhywbeth gan yr ARGLWYDD, byddai'n mynd at y babell yma tu allan i'r gwersyll.
8 Pan fyddai Moses yn mynd allan i'r babell, byddai'r bobl i gyd yn sefyll tu allan i'w pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn i'r babell.
9 Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan i'r fynedfa tra roedd yr ARGLWYDD yn siarad â Moses.
10 Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw'n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli.
11 Byddai'r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl i'r gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwy'r amser.
12 Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd â'r bobl yma allan,’ ond dwyt ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’
13 Os ydy hynny'n wir, dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud, i mi ddeall yn well a dal ati i dy blesio di. A cofia mai dy bobl di ydy'r rhain.”
14 Dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Bydda i fy hun yn mynd, ac yn gwneud yn siŵr y byddi di'n iawn.”
15 A dyma Moses yn ei ateb, “Wnawn ni ddim symud cam os na ddoi di gyda ni.
16 Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni'n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy'r byd i gyd?”
17 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Iawn, bydda i'n gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.”
18 Dyma Moses yn dweud, “Dangos dy ysblander i mi.”
19 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw i'n mynd i gyhoeddi fy enw, ‘yr ARGLWYDD’ o dy flaen di. Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.”
20 Yna dwedodd, “Ond gei di ddim gweld fy wyneb i. Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.”
21 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Edrych, mae yna le i ti sefyll ar y graig yn y fan yma.
22 Pan fydd fy ysblander i'n mynd heibio, bydda i'n dy guddio di mewn hollt yn y graig, a rhoi fy llaw drosot ti wrth i mi fynd heibio.
23 Wedyn bydda i'n cymryd fy llaw i ffwrdd, a gadael i ti edrych ar fy nghefn i. Does neb yn cael gweld fy wyneb i.”