Exodus 24 BNET

Cadarnhau'r ymrwymiad

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i fyny yma ata i. Tyrd ag Aaron a'i ddau fab, Nadab ac Abihw, a saith deg arweinydd Israel gyda ti. Byddan nhw'n fy addoli o bell,

2 tra byddi di, Moses, yn dod yn nes ata i. Dydy'r lleill ddim i ddod yn rhy agos. A dydy'r bobl ddim i gael dringo'r mynydd o gwbl.”

3 Yna dyma Moses yn mynd i ddweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. Roedd ymateb y bobl yn unfrydol, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.”

4 Felly dyma Moses yn ysgrifennu popeth ddwedodd yr ARGLWYDD. Ac yn gynnar y bore wedyn dyma fe'n codi allor wrth droed y mynydd, ac un deg dwy o golofnau o'i chwmpas – un ar gyfer pob un o ddeuddeg llwyth Israel.

5 Yna dyma fe'n anfon rhai o'r dynion ifanc i gyflwyno offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr, ac i aberthu teirw yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

6 Wedyn dyma Moses yn rhoi hanner y gwaed mewn powlenni, a sblasio'r gweddill ar yr allor.

7 Yna dyma fe'n cymryd Sgrôl yr Ymrwymiad, ac yn ei darllen i'r bobl. A dyma nhw'n dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, ac yn gwrando arno.”

8 Wedyn dyma Moses yn cymryd y gwaed oedd yn y powlenni, a'i daenellu ar y bobl. Ac meddai, “Mae'r gwaed hwn yn cadarnhau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud, i chi fod yn ufudd i bopeth mae e'n ddweud.”

9 Yna dyma Moses, Aaron, Nadab, Abihw a saith deg arweinydd Israel yn mynd i fyny'r mynydd,

10 a dyma nhw'n gweld Duw Israel. Dan ei draed roedd rhywbeth tebyg i balmant wedi ei wneud o saffir. Roedd yn glir fel yr awyr las.

11 Ond wnaeth e ddim dinistrio arweinwyr Israel. Roedden nhw wedi gweld Duw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed yn ei gwmni.

Moses ar Fynydd Sinai

12 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i ben y mynydd, ac aros amdana i. Dw i fy hun wedi ysgrifennu fy rheolau a'm cyfreithiau ar lechi, a dw i'n mynd i'w rhoi nhw i ti i'w dysgu i'r bobl.”

13 Felly dyma Moses yn mynd, gyda'i was Josua, a dechrau dringo i fyny mynydd Duw.

14 Roedd wedi dweud wrth yr arweinwyr, “Arhoswch amdanon ni yma, nes down ni yn ôl. Mae Aaron a Hur gyda chi. Os oes angen setlo rhyw ddadl, gallwch fynd atyn nhw.”

15 Wrth i Moses ddringo i fyny, dyma'r cwmwl yn dod i lawr a gorchuddio'r mynydd.

16 Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn gorffwys ar Fynydd Sinai. Roedd y cwmwl wedi ei orchuddio am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Duw yn galw ar Moses o ganol y cwmwl.

17-18 Roedd Moses wedi cerdded i mewn i'r cwmwl ar y mynydd. A buodd yno ddydd a nos am bedwar deg diwrnod llawn.Roedd y bobl yn gweld ysblander yr ARGLWYDD ar ben y mynydd – roedd yn edrych fel tân yn llosgi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40