Exodus 11 BNET

Rhybudd fod pob mab hynaf i farw

1 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i daro'r Pharo a gwlad yr Aifft un tro olaf. Bydd e'n eich gollwng chi'n rhydd wedyn, heb unrhyw amodau. Yn wir, bydd e'n eich gyrru chi allan o'r wlad.

2 Dywed wrth bobl Israel fod pawb i ofyn i'w cymdogion am bethau wedi eu gwneud o arian ac aur.”

3 A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a'r bobl gyffredin barch mawr ato.

4 A dyma Moses yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Tua canol nos bydda i'n mynd trwy wlad yr Aifft,

5 a bydd pob mab hynaf drwy'r wlad yn marw – o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r gaethferch sy'n troi y felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni.

6 Bydd pobl yn wylofain drwy wlad yr Aifft i gyd. Fydd dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen, a fydd dim byd tebyg byth eto.

7 Ond fydd dim yn bygwth pobl Israel na'u hanifeiliaid – dim hyd yn oed ci yn cyfarth! Byddwch chi'n deall wedyn fod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a pobl Israel.’

8 “Bydd dy swyddogion i gyd yn dod i edrych amdana i, ac yn plygu'n isel o'm blaen i. Byddan nhw'n dweud, ‘Ewch! – ti a'r bobl sy'n dy ddilyn di.’ Wedyn bydda i'n mynd.” Yna dyma Moses yn gadael y Pharo, wedi digio'n lân.

9 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Fydd y Pharo ddim yn gwrando arnoch chi. Felly dw i'n mynd i wneud mwy o wyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft.”

10 Er bod Moses ac Aaron wedi gwneud y gwyrthiau rhyfeddol yma o flaen y Pharo, roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud e'n ystyfnig. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd yn rhydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40