Exodus 28 BNET

Gwisgoedd yr Offeiriaid

1 “Mae dy frawd Aaron a'i feibion, Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar, i wasanaethu fel offeiriaid i mi.

2 Rhaid i ti wneud gwisgoedd cysegredig i dy frawd Aaron – gwisgoedd hardd fydd yn dangos urddas y gwaith fydd yn ei wneud.

3 Rwyt i siarad â'r crefftwyr gorau, sydd wedi eu donio gen i, iddyn nhw wneud urddwisg i Aaron, fydd yn dangos ei fod wedi ei ddewis i wasanaethu fel offeiriad i mi.

4 “Dyma'r gwahanol rannau o'r urddwisg sydd i gael eu gwneud: Y boced sydd i fynd dros y frest, effod, mantell, crys patrymog, twrban a sash. Mae'r dillad cysegredig yma i gael eu gwneud i dy frawd Aaron a'i feibion, fydd yn gwasanaethu fel offeiriaid i mi.

5 Mae'r cwbl i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.

6 Mae'r effod i gael ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei ddylunio'n gelfydd a'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.

7 Mae dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi eu cysylltu i'r corneli, i'w ddal gyda'i gilydd.

8 Mae'r strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod, wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.

9 Yna rwyt i gymryd dwy garreg onics a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw,

10 yn y drefn y cawson nhw eu geni – chwech ar un garreg a chwech ar y llall.

11 Mae crefftwr profiadol i grafu'r enwau ar y cerrig, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud, ac yna eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.

12 Yna cysylltu'r ddwy garreg i strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel. Bydd Aaron yn gwisgo'r enwau ar ei ysgwyddau o flaen yr ARGLWYDD.

13 Mae'r ffiligri i gael ei wneud o aur,

14 gyda dwy gadwyn o aur pur wedi ei blethu yn hongian o un i'r llall.

Y Darn ar frest yr Archoffeiriad

15 “Y darn sy'n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio'n gelfydd gan artist, a'i wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.

16 Mae i'w blygu yn ei hanner i wneud poced 22 centimetr sgwâr.

17 Wedyn mae pedair rhes o gerrig i'w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;

18 yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt;

19 y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst;

20 a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.

21 Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw'r llwyth wedi ei grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.

22 Yna mae cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod arno.

23 Yna gwneud dwy ddolen aur, a'i cysylltu nhw i'r corneli uchaf.

24 Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny,

25 a chysylltu pen arall y cadwyni i strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen.

26 Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'i cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod.

27 Yna gwneud dwy ddolen aur arall a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwch ben strap yr effod.

28 Mae dolenni'r darn dros y frest i gael eu clymu i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwch ben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd.

29 Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r lle sanctaidd bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel.

30 Yna mae'r Wrim a'r Thwmim i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD.

Gwisgoedd eraill yr offeiriaid

31 “Mae'r fantell sy'n mynd gyda'r effod i fod yn las.

32 Mae lle i'r pen fynd trwyddo ar y top, gyda hem o'i gwmpas, wedi ei bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo.

33 Wedyn gosod pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi eu gwneud o edau las, porffor a coch. A gosod clychau aur rhyngddyn nhw –

34 y clychau a'r ffrwythau bob yn ail.

35 Mae Aaron i wisgo'r fantell yma pan fydd e'n gwasanaethu, a bydd sŵn y clychau i'w clywed wrth iddo fynd i mewn ac allan o'r Lle Sanctaidd o flaen yr ARGLWYDD, rhag iddo farw.

36 “Yna gwneud medaliwn o aur pur, a crafu arno y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD’

37 Mae i gael ei glymu gydag edau las ar du blaen y twrban,

38 ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi eu neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo'r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau'r bobl yn dderbyniol.

39 “Mae'r crys patrymog a'r twrban i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, gyda'r sash wedi ei frodio.

40 “Yna i feibion Aaron rhaid gwneud crysau, sashiau, a penwisgoedd. Gwisgoedd hardd fydd yn dangos rhywbeth o urddas y gwaith fyddan nhw'n ei wneud.

41 “Yna byddi'n arwisgo dy frawd Aaron a'i feibion, a'u heneinio, ordeinio a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.

42 “Rhaid gwneud dillad isaf o liain iddyn nhw, i guddio eu cyrff noeth. Mae'r rhain i'w gwisgo o'r canol at y pen-glin.

43 Rhaid i Aaron a'i feibion wisgo'r rhain pan fyddan nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw, neu i weinyddu wrth yr allor yn y Lle Sanctaidd, rhag iddyn nhw bechu a marw. Dyma fydd y drefn bob amser, i Aaron a'i ddisgynyddion ar ei ôl.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40