1 “Mae'r Tabernacl ei hun i gael ei wneud o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
2 Mae pob llen i fod yn un deg dau metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
3 Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.
4 Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set –
5 hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd.
6 Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
7 “Yna nesaf gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw.
8 Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
9 Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r chwech arall i gael eu gwnïo at ei gilydd. Mae'r chweched llen yn yr ail grŵp o lenni, i'w phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell.
10 Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set,
11 a hanner can bachyn pres i fynd trwy'r dolenni i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.
12 Mae'r hanner llen sydd dros ben i'w adael yn hongian dros gefn y Tabernacl.
13 Yna ar ddwy ochr y Tabernacl bydd yr hanner metr ychwanegol yn golygu fod y darn sy'n hongian dros yr ymyl yn ei gorchuddio hi i'r llawr.
14 “Yna'n olaf, dau orchudd arall dros y cwbl – un wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, a gorchudd allanol o grwyn môr-fuchod.
15 “Mae fframiau'r Tabernacl i'w gwneud allan o goed acasia.
16 Mae pob un i fod yn bedwar metr o hyd, a chwe deg chwech centimetr o led,
17 gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd.
18 Rhaid gwneud dau ddeg ffrâm i ochr ddeheuol y Tabernacl,
19 a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.
20 Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol.
21 A pedwar deg soced iddyn nhw – dwy soced dan bob ffrâm.
22 Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol,
23 a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn.
24 Yn y corneli mae dau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Mae'r fframiau ar y ddwy gornel i fod yr un fath.
25 Mae hynny'n gwneud wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.
26-27 “Yna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
28 Mae'r croesfar ar ganol y fframiau i ymestyn o un pen i'r llall.
29 Mae'r fframiau a'r croesfarrau i gael eu gorchuddio gydag aur, ac mae'r cylchoedd sy'n dal y croesfarrau i gael eu gwneud o aur hefyd.
30 “Pan fyddi'n codi'r Tabernacl, rhaid dilyn yr union fanylion gafodd eu rhoi i ti ar y mynydd.
31 “Rwyt i wneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
32 Mae'r llen yma i hongian ar bedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur a'u gosod mewn socedi arian.
33 Mae'r llen i hongian ar fachau aur, ac wedyn mae Arch y dystiolaeth i'w gosod tu ôl i'r llen. Bydd y llen yn gwahanu'r Lle Sanctaidd oddi wrth y Lle Mwyaf Sanctaidd.
34 Yna mae'r caead i gael ei osod ar Arch y dystiolaeth yn y Lle Mwyaf Sanctaidd.
35 Wedyn mae'r bwrdd a'r menora (sef y stand i'r lampau) i gael eu gosod gyferbyn â'i gilydd tu allan i'r llen – y bwrdd ar ochr y gogledd, a'r menora ar ochr y de.
36 Wedyn rhaid gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Bydd hon eto wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei brodio gydag edau las, porffor a coch.
37 Mae i hongian ar bump polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur. Mae'r bachau i'w gwneud o aur, ac mae pum soced bres i gael eu gwneud i ddal y polion.