Exodus 25 BNET

Sut i godi'r Tabernacl

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2 “Dywed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy'n awyddus i gyfrannu.

3 Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres,

4 edau las, porffor, a coch, lliain main drud, blew gafr,

5 crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia,

6 olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus,

7 onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest.

8 Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw.

9 Dw i eisiau i'r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i'n dangos i ti.

Yr Arch

10 “Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia – 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder.

11 Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.

12 Yna gwneud pedair cylch aur, a'i gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr.

13 A dau bolyn o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur.

14 Mae'r polion i ffitio drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, ac i'w defnyddio i'w chario hi.

15 Mae'r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser – rhaid peidio eu tynnu nhw allan.

16 Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch.

17 “Yna gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led.

18-19 Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun.

20 Mae'r ceriwbiaid i fod yn wynebu ei gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch.

21 Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi.

22 Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau geriwb sydd uwch ben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.

Bwrdd y bara i'w gyflwyno i Dduw

23 “Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.

24 Mae'r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i'w osod o'i gwmpas i'w addurno.

25 Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border.

26 Yna gwneud pedair cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau

27 wrth ymyl y croeslath. Mae'r cylchoedd i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd.

28 Mae'r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur.

29 Hefyd platiau, pedyll, jygiau a powlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod.

30 Mae'r bara cysegredig i gael ei osod o'm blaen i ar y bwrdd yma bob amser.

Stand i ddal y lampau – y Menora

31 “Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.

32 Mae chwe cangen i ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr.

33 Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau.

34 Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau.

35 Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd.

36 Mae'r cwbl i'w wneud o un darn o aur pur wedi ei guro – gwaith morthwyl.

37 Yna rhaid gwneud saith lamp, a'i gosod nhw arni fel eu bod yn goleuo o'i blaen hi.

38 Mae'r gefeiliau a'r padellau hefyd i'w gwneud o aur pur.

39 Dylid defnyddio 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer i gyd.

40 Gwna'n siŵr dy fod yn eu gwneud nhw yn union fel yn y cynllun gafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40