Exodus 37 BNET

Gwneud yr Arch

1 Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hi'n 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder.

2 Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.

3 Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr.

4 Yna gwneud polion o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur,

5 a rhoi'r polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, i'w defnyddio i'w chario hi.

6 Wedyn dyma fe'n gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led.

7 Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead,

8 yn un darn gyda'r caead ei hun.

9 Roedd adenydd y ceriwbiaid ar led yn cysgodi dros gaead yr Arch. Roedd y ceriwbiaid yn wynebu ei gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.

Bwrdd y bara sydd i'w gyflwyno i Dduw

10 Wedyn dyma fe'n gwneud y bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.

11 Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o'i gwmpas i'w addurno.

12 Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border.

13 Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'i gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau

14 wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd.

15 Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur.

16 Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur – y platiau, pedyll, jygiau a powlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.

Gwneud y stand i ddal y lampau – y Menora

17 Yna dyma fe'n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.

18 Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr.

19 Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau.

20 Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau.

21 Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd.

22 Roedd y cwbl wedi ei wneud o un darn o aur pur wedi ei guro – gwaith morthwyl.

23 Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau a'i phadellau o aur pur.

24 Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer oedd gyda hi i gyd.

Gwneud yr allor i losgi arogldarth

25 Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gyda'r allor ei hun.

26 Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.

27 Roddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor.

28 Yna gwnaeth y polion o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gydag aur.

Gwneud yr olew eneinio a'r arogldarth

29 Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig a'r arogldarth persawrus, wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40