1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron yn yr Aifft,
2 “Y mis yma fydd mis cynta'r flwyddyn i chi.
3 Dwedwch wrth bobl Israel: Ar y degfed o'r mis rhaid i bob teulu gymryd oen neu fyn gafr i'w ladd.
4 Os ydy'r teulu'n rhy fach i fwyta'r anifail cyfan, dylen nhw ei rannu gyda'u cymdogion. Mae'n dibynnu faint o bobl sydd yn y teulu, a faint mae pawb yn gallu ei fwyta.
5 Rhaid iddo fod yn anifail gwryw, blwydd oed, heb ddim o'i le arno. Gall fod yn oen neu'n fyn gafr.
6 Rhaid ei gadw ar wahân hyd y pedwerydd ar ddeg o'r mis. Yna, y noson honno, ar ôl i'r haul fachlud, bydd pobl Israel i gyd yn lladd yr oen neu'r myn gafr sydd ganddyn nhw.
7 Wedyn maen nhw i gymryd peth o'r gwaed a'i roi ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws i'r tŷ lle byddan nhw'n ei fwyta.