15 “Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf rhaid cael gwared ag unrhyw beth yn y tŷ sydd â burum ynddo. Yn ystod y saith diwrnod yna, bydd unrhyw un sydd yn bwyta bara wedi ei wneud gyda burum yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.
16 “Bydd cyfarfodydd arbennig i addoli yn cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf ac ar y seithfed diwrnod. A does dim gwaith i gael ei wneud ar y dyddiau hynny, ar wahân i baratoi bwyd i bawb.
17 “Dyna sut ydych chi i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Dyma'r diwrnod wnes i eich arwain chi allan o'r Aifft, ac felly bydd yn rhan o'r drefn bob amser eich bod yn dathlu'r digwyddiad yn flynyddol.
18 Dim ond bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta o fachlud haul ar y pedwerydd ar ddeg hyd fachlud haul ar yr unfed ar hugain o'r mis cyntaf.
19 Does dim burum i fod yn eich tai o gwbl am saith diwrnod. Os bydd unrhyw un (un o bobl Israel neu rywun o'r tu allan) yn bwyta rhywbeth wedi ei wneud gyda burum, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.
20 Peidiwch bwyta unrhyw beth wedi ei wneud gyda burum – dim ond bara heb furum ynddo.”
21 Yna dyma Moses yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, ac yn dweud wrthyn nhw, “Ewch i ddewis oen neu fyn gafr i'ch teulu, i'w lladd fel aberth y Pasg.