32 Ewch â'ch anifeiliaid i gyd fel roeddech chi eisiau. I ffwrdd â chi! Ond cofiwch ofyn am fendith arna i.”
33 Roedd yr Eifftiaid yn benderfynol bellach fod rhaid i bobl Israel adael y wlad, a hynny ar frys. Roedden nhw'n meddwl, “Os arhosan nhw, byddwn ni i gyd wedi marw!”
34 Dyma bobl Israel yn cymryd y toes oedd heb furum ynddo yn eu powlenni cymysgu, eu lapio mewn dillad, a'u cario ar eu hysgwyddau.
35 Ac roedden nhw wedi gwneud beth ddwedodd Moses wrthyn nhw hefyd – roedden nhw wedi gofyn i'r Eifftiaid am bethau o aur ac arian, ac am ddillad.
36 Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r Eifftiaid roi anrhegion i bobl Israel. Roedden nhw'n cael beth bynnag oedden nhw'n gofyn amdano. Dyma nhw'n cymryd popeth oddi ar bobl yr Aifft!
37 Felly dyma bobl Israel yn teithio o Rameses i Swccoth. Roedd tua 600,000 o ddynion yn cerdded ar droed, heb sôn am y gwragedd a'r plant.
38 Roedd tyrfa gymysg o bobl wedi mynd gyda nhw, a lot fawr iawn o anifeiliaid – defaid a geifr a gwartheg.