39 Roedden nhw'n gwneud bara i'w fwyta o'r toes wnaethon nhw ei gario o'r Aifft – bara heb furum ynddo. Roedden nhw wedi cael eu gyrru allan o'r Aifft ar gymaint o frys, doedd dim amser i baratoi bwyd cyn mynd.
40 Roedd pobl Israel wedi bod yn yr Aifft ers pedwar cant tri deg o flynyddoedd.
41 Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, dyma bobl yr ARGLWYDD yn gadael yr Aifft mewn rhengoedd trefnus fel byddin.
42 Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw'r noson yma'n arbennig i'w harwain nhw allan o wlad yr Aifft. Felly, o hyn ymlaen, ar y noson yma, mae pobl Israel i gyd i fod i gadw gwylnos i'r ARGLWYDD.
43 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Dyma reolau'r Pasg. Dydy pobl o'r tu allan ddim i gael bwyta ohono –
44 dim ond caethweision sydd wedi eu prynu ac wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
45 Dydy mewnfudwyr neu weithwyr sy'n derbyn cyflog ddim i gael bwyta ohono.