1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi piau nhw.”
3 Dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Mae'r diwrnod yma pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, yn ddiwrnod i'w gofio. Roeddech chi'n gaethion yno, a dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth i'ch rhyddhau chi. Ond peidiwch bwyta bara wedi ei wneud gyda burum pan fyddwch chi'n dathlu.
4 Dyma'r diwrnod, ym mis Abib, pan aethoch chi allan.
5 A pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi – gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn.
6 Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i'r ARGLWYDD.