11 “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid chi,
12 rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd piau nhw.
13 Gellir prynu'n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e'n cael ei brynu rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl hefyd.
14 Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’ dych chi i'w hateb, ‘yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft, lle roedden ni'n gaethion.
15 Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni'n rhydd, felly dyma'r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw oedd gyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni'n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i'r ARGLWYDD. Ond dŷn ni'n prynu'n ôl pob mab sydd y cyntaf i gael ei eni.’
16 Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i'ch atgoffa fod yr ARGLWYDD wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft.”
17 Pan wnaeth y Pharo adael i'r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai'r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i'r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i'r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw.