8 Yna dych chi i esbonio i'ch plant, ‘Dŷn ni'n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o'r Aifft.’
9 Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o'r Aifft.
10 Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn.
11 “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid chi,
12 rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd piau nhw.
13 Gellir prynu'n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e'n cael ei brynu rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl hefyd.
14 Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’ dych chi i'w hateb, ‘yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft, lle roedden ni'n gaethion.