1 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dywed wrth bobl Israel am droi yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd rhwng Migdol a'r môr, a gwersylla ar lan y môr, yn union gyferbyn â Baal-tseffon.
3 Bydd y Pharo yn meddwl, ‘Dydy pobl Israel ddim yn gwybod ble i droi. Maen nhw wedi eu dal rhwng yr anialwch a'r môr!’
4 Bydda i'n gwneud y Pharo yn ystyfnig unwaith eto, a bydd yn dod ar eich holau. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin, a bydd pobl yr Aifft yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud beth ddwedodd Moses.
5 Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi dianc, dyma fe a'i swyddogion yn newid eu meddyliau, “Beth oedd ar ein pennau ni?” medden nhw, “Dŷn ni wedi gadael i'n caethweision fynd yn rhydd!”
6 Felly dyma fe'n paratoi ei gerbydau rhyfel ac yn mynd â'i filwyr gydag e.
7 Aeth â chwech chant o'i gerbydau gorau, a'r cerbydau eraill i gyd, gyda cadfridog yn bob un.