1 Dyma Moses a pobl Israel yn canu'r gân yma i'r ARGLWYDD:“Dw i am ganu i'r ARGLWYDDa dathlu ei fuddugoliaeth:Mae e wedi taflu'r ceffylaua'u marchogion i'r môr!
2 Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!Fe sydd wedi fy achub i.Dyma'r Duw dw i'n ei addoli –Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol!
3 Yr ARGLWYDD ydy ei enw e.Mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr.
4 Mae wedi taflu cerbydau y Pharoa'i fyddin i gyd i'r môr!Cafodd eu swyddogion goraueu boddi yn y Môr Coch.