11 Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti, ARGLWYDD?Does neb tebyg i ti –mor wych, ac mor sanctaidd,yn haeddu dy barchu a dy foli;ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!
12 Dyma ti'n codi dy law grefa dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn!
13 Yn dy gariad byddi'n arwainy bobl rwyt wedi eu rhyddhau;byddi'n eu tywys yn dy nerthi'r lle cysegredig lle rwyt yn byw.
14 Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu –bydd pobl Philistia yn poeni,
15 ac arweinwyr Edom wedi brawychu.Bydd dynion cryf Moab yn crynu,a pobl Canaan yn poeni.
16 Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw –mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fudfel carreg.Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy boblwedi pasio heibio, ARGLWYDD;y bobl wnest ti eu prynu wedi pasio heibio.
17 Ond byddi'n mynd â nhw i mewnac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun –ble rwyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD;y cysegr rwyt ti wedi ei sefydlu.