4 Mae wedi taflu cerbydau y Pharoa'i fyddin i gyd i'r môr!Cafodd eu swyddogion goraueu boddi yn y Môr Coch.
5 Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw,a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg.
6 Mae dy law gref yn rhyfeddol, ARGLWYDD;dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn.
7 Am dy fod mor aruthrol fawr,rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn –Ti'n dangos dy fod yn ddig,ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt.
8 Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr,y llif yn sefyll fel argae,a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.
9 Dyma'r gelyn yn dweud,‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw,a rhannu'r ysbail!Dw i'n mynd i gael amser da!Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro –dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’
10 Ond dyma ti'n chwythu,a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw!Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!