9 Dyma'r gelyn yn dweud,‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw,a rhannu'r ysbail!Dw i'n mynd i gael amser da!Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro –dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’
10 Ond dyma ti'n chwythu,a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw!Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!
11 Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti, ARGLWYDD?Does neb tebyg i ti –mor wych, ac mor sanctaidd,yn haeddu dy barchu a dy foli;ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!
12 Dyma ti'n codi dy law grefa dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn!
13 Yn dy gariad byddi'n arwainy bobl rwyt wedi eu rhyddhau;byddi'n eu tywys yn dy nerthi'r lle cysegredig lle rwyt yn byw.
14 Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu –bydd pobl Philistia yn poeni,
15 ac arweinwyr Edom wedi brawychu.Bydd dynion cryf Moab yn crynu,a pobl Canaan yn poeni.