24 Felly dyma nhw'n cadw beth oedd dros ben tan y bore, fel roedd Moses wedi dweud. Wnaeth e ddim drewi, a doedd dim cynrhon ynddo.
25 Ac meddai Moses, “Dyna sydd i'w fwyta heddiw, gan fod y diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD. Fydd dim ohono i'w gael allan ar lawr heddiw.
26 Gallwch ei gasglu am chwe diwrnod, ond fydd dim yna ar y seithfed, sef y Saboth.”
27 Ond er hynny, ar y seithfed diwrnod dyma rai pobl yn mynd allan i'w gasglu, ond doedd dim byd yno.
28 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint ydych chi'n mynd i wrthod gwrando arna i a gwneud beth dw i'n ddweud?
29 Am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r Saboth i chi, dyna pam mae e'n rhoi digon o fwyd i chi am ddau ddiwrnod ar y chweched dydd. Dylech chi i gyd eistedd i lawr, a peidio mynd allan ar y seithfed diwrnod.”
30 Felly dyma'r bobl yn gorffwys ar y seithfed diwrnod.