29 Am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r Saboth i chi, dyna pam mae e'n rhoi digon o fwyd i chi am ddau ddiwrnod ar y chweched dydd. Dylech chi i gyd eistedd i lawr, a peidio mynd allan ar y seithfed diwrnod.”
30 Felly dyma'r bobl yn gorffwys ar y seithfed diwrnod.
31 Galwodd pobl Israel y stwff yn “manna.” Roedd yn edrych fel hadau coriander, yn wyn, ac yn blasu fel bisgedi wedi eu gwneud gyda mêl.
32 A dyma Moses yn rhoi'r gorchymyn yma gan yr ARGLWYDD iddyn nhw: “Cadwch ddau chwart ohono i'w gadw am byth, er mwyn i bobl yn y dyfodol gael gweld y bwyd wnes i ei roi i chi yn yr anialwch, pan ddes i â chi allan o wlad yr Aifft.”
33 A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Cymer jar, a rhoi dau chwart llawn o'r manna ynddo, a'i osod o flaen yr ARGLWYDD, i'w gadw'n saff ar hyd y cenedlaethau.”
34 A dyna wnaeth Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma fe'n ei osod o flaen Arch y Dystiolaeth, i'w gadw'n saff.
35 Bu pobl Israel yn bwyta'r manna am bedwar deg o flynyddoedd, nes iddyn nhw gyrraedd gwlad Canaan ble gwnaethon nhw setlo i lawr.