3 “Byddai'n well petai'r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i'w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i'r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!”
4 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i wneud i fara ddisgyn o'r awyr fel glaw arnoch chi. Bydd rhaid i'r bobl fynd allan i gasglu yr hyn sydd ei angen arnyn nhw bob dydd. Bydda i'n eu profi nhw i weld os gwnân nhw wrando ar beth dw i'n ddweud ai peidio.
5 Ar chweched diwrnod pob wythnos maen nhw i gasglu dwywaith cymaint ag roedden nhw wedi ei gasglu bob diwrnod arall.”
6 Felly dyma Moses ac Aaron yn dweud wrth bobl Israel, “Erbyn gyda'r nos heno, byddwch chi'n gwybod mai'r ARGLWYDD sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft.
7 A bore yfory byddwch chi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Fe ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni.”
8 Ac meddai Moses, “Byddwch chi'n deall yn iawn pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi cig i chi ei fwyta gyda'r nos, a digonedd o fara yn y bore. Mae'r ARGLWYDD wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Yr ARGLWYDD ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni!”
9 Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Galw'r dyrfa o bobl Israel i gyd at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, ‘Dewch yma i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno.’”