1 Clywodd tad-yng-nghyfraith Moses (sef Jethro, offeiriad Midian) am y cwbl roedd Duw wedi ei wneud i Moses a phobl Israel. Clywodd fod yr ARGLWYDD wedi dod â phobl Israel allan o'r Aifft.
2 Roedd Moses wedi anfon ei wraig Seffora a'i ddau fab yn ôl at Jethro.
3 Gershom oedd enw un mab (am i Moses ddweud, “Dw i wedi bod fel mewnfudwr mewn gwlad ddieithr”),
4 ac Elieser oedd y llall (am fod Moses wedi dweud, “Mae Duw fy nhad wedi fy helpu, ac wedi fy achub rhag cael fy lladd gan y Pharo”).