3 Gershom oedd enw un mab (am i Moses ddweud, “Dw i wedi bod fel mewnfudwr mewn gwlad ddieithr”),
4 ac Elieser oedd y llall (am fod Moses wedi dweud, “Mae Duw fy nhad wedi fy helpu, ac wedi fy achub rhag cael fy lladd gan y Pharo”).
5 A dyma Jethro yn dod â gwraig Moses a'i feibion i'r anialwch at Moses oedd yn gwersylla wrth ymyl mynydd Sinai.
6 Roedd wedi anfon neges at Moses yn dweud, “Dw i'n dod i dy weld di, gyda dy wraig a dy ddau fab.”
7 A dyma Moses yn mynd allan i'w gyfarfod ac yn ymgrymu o'i flaen ac yn ei gyfarch drwy ei gusanu. Ar ôl holi ei gilydd sut oedd pethau wedi bod, dyma nhw'n mynd yn ôl i babell Moses.
8 Dwedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith am bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud i'r Pharo a pobl yr Aifft er mwyn achub pobl Israel. Dwedodd wrtho am y problemau roedden nhw wedi eu hwynebu ar y ffordd, a sut roedd yr ARGLWYDD wedi eu helpu nhw drwy'r cwbl.
9 Roedd Jethro wrth ei fodd yn clywed am y cwbl roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud i achub pobl Israel o'r Aifft.