8 Dwedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith am bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud i'r Pharo a pobl yr Aifft er mwyn achub pobl Israel. Dwedodd wrtho am y problemau roedden nhw wedi eu hwynebu ar y ffordd, a sut roedd yr ARGLWYDD wedi eu helpu nhw drwy'r cwbl.
9 Roedd Jethro wrth ei fodd yn clywed am y cwbl roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud i achub pobl Israel o'r Aifft.
10 “Bendith ar yr ARGLWYDD” meddai. “Mae wedi eich achub chi oddi wrth y Pharo a'r Eifftiaid!
11 Dw i'n gweld nawr fod yr ARGLWYDD yn gryfach na'r duwiau i gyd! Mae'n gallu gwneud beth maen nhw'n brolio amdano yn well na nhw!”
12 Yna dyma Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, yn dod ag offrwm i'w losgi ac aberthau eraill i'w cyflwyno i Dduw. A dyma Aaron ac arweinwyr Israel yn ymuno gyda Jethro i fwyta'r aberthau o flaen Duw.
13 Y diwrnod wedyn dyma Moses yn eistedd i farnu achosion rhwng pobl. Roedd y bobl yn ciwio o'i flaen o fore gwyn tan nos.
14 Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith gymaint roedd Moses yn ei wneud, dyma fe'n dweud, “Pam wyt ti'n gwneud hyn i gyd ar dy ben dy hun? Mae'r bobl yn gorfod sefyll yma drwy'r dydd yn disgwyl eu tro.”