3 Yna dyma Moses yn dringo i fyny'r mynydd i gyfarfod gyda Duw, a dyma'r ARGLWYDD yn galw arno o'r mynydd, “Dywed wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel:
4 ‘Dych chi wedi gweld beth wnes i i'r Eifftiaid. Dw i wedi eich cario chi ar adenydd eryr a dod â chi yma.
5 Nawr, os gwnewch chi wrando arna i a cadw amodau'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda chi, byddwch chi'n drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd. Fi sydd piau'r cwbl,
6 ond byddwch chi'n offeiriaid yn gwasanaethu'r Brenin, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyna'r neges rwyt i i'w rhoi i bobl Israel.”
7 Felly dyma Moses yn mynd yn ôl ac yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, a rhannu gyda nhw beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud.
8 Roedd ymateb y bobl yn unfrydol: “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma Moses yn mynd â'u hateb yn ôl i'r ARGLWYDD.
9 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i'n mynd i ddod atat ti mewn cwmwl trwchus, er mwyn i'r bobl glywed pan dw i'n siarad gyda ti. Byddan nhw'n dy drystio di wedyn.”Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD beth ddwedodd y bobl.