5 Daeth merch y Pharo i lawr at yr afon i ymdrochi, tra roedd ei morynion yn cerdded ar lan yr afon. A dyma hi'n sylwi ar y fasged yng nghanol y brwyn, ac anfon caethferch i'w nôl.
6 Agorodd y fasged, a gweld y babi bach – bachgen, ac roedd yn crïo. Roedd hi'n teimlo trueni drosto. “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn,” meddai.
7 Yna dyma chwaer y plentyn yn mynd at ferch y Pharo, a gofyn, “Ga i fynd i nôl un o'r gwragedd Hebreig i fagu'r plentyn i chi?”
8 A dyma ferch y Pharo yn dweud, “Ie, gwna hynny!”Felly dyma hi'n mynd adre i nôl mam y babi.
9 A dyma ferch y Pharo yn dweud wrthi, “Dw i eisiau i ti gymryd y plentyn yma, a'i fagu ar y fron i mi. Gwna i dalu cyflog i ti am wneud hynny.” Felly aeth y wraig a'r plentyn adre i'w fagu.
10 Yna, pan oedd y plentyn yn ddigon hen, dyma hi'n mynd ag e at ferch y Pharo, a dyma hithau'n ei fabwysiadu yn fab iddi ei hun. Rhoddodd yr enw Moses iddo – “Am fy mod wedi ei dynnu allan o'r dŵr,” meddai.
11 Flynyddoedd wedyn, pan oedd Moses wedi tyfu'n oedolyn, aeth allan at ei bobl, a gweld fel roedden nhw'n cael eu cam-drin. Gwelodd Eifftiwr yn curo Hebrëwr – un o'i bobl ei hun!