10 Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD.Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –ti na dy feibion a dy ferched,dy weision na dy forynion chwaith;dim hyd yn oed dy anifeiliaidnag unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.
11 Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd,y ddaear, y môr a popeth sydd ynddyn nhw;wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod.Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth,a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi ei gysegru.
12 Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
13 Paid llofruddio.
14 Paid godinebu.
15 Paid dwyn.
16 Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.