11 Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd,y ddaear, y môr a popeth sydd ynddyn nhw;wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod.Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth,a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi ei gysegru.
12 Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
13 Paid llofruddio.
14 Paid godinebu.
15 Paid dwyn.
16 Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
17 Paid chwennych tŷ rhywun arall.Paid chwennych ei wraig,na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,na dim byd sydd gan rywun arall.”