12 Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
13 Paid llofruddio.
14 Paid godinebu.
15 Paid dwyn.
16 Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
17 Paid chwennych tŷ rhywun arall.Paid chwennych ei wraig,na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,na dim byd sydd gan rywun arall.”
18 Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.