16 Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
17 Paid chwennych tŷ rhywun arall.Paid chwennych ei wraig,na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,na dim byd sydd gan rywun arall.”
18 Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.
19 Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.”
20 Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.”
21 Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra'r aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.
22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd.