18 Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.
19 Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.”
20 Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.”
21 Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra'r aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.
22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd.
23 Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi'ch hunain.
24 Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni – yn offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi.