2 “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,lle roeddech chi'n gaethweision.
3 Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
4 Paid cerfio eilun i'w addoli –dim byd sy'n edrych fel unrhywaderyn, anifail na physgodyn.
5 Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw.Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i,ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plantam dair i bedair cenhedlaeth.
6 Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôlam fil o genedlaethauat y rhai sy'n fy ngharu iac yn gwneud beth dw i'n ddweud.
7 Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw.Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enwddianc rhag cael ei gosbi.
8 Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial.Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.