20 Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.”
21 Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra'r aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.
22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd.
23 Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi'ch hunain.
24 Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni – yn offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi.
25 Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi eu naddu. Os bydd cŷn wedi ei defnyddio arni, bydd yr allor wedi ei halogi.
26 A peidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i'ch rhannau preifat gael eu gweld.’”