1 “Dyma'r rheolau rwyt ti i'w rhoi iddyn nhw:
2 Os wyt ti'n prynu Hebrëwr yn gaethwas, rhaid iddo weithio i ti am chwe mlynedd. Ond ar ddechrau'r seithfed flwyddyn mae'n rhydd i fynd, heb dalu dim i ti.
3 Os oedd yn sengl pan ddechreuodd weithio i ti, bydd yn gadael ar ei ben ei hun; ond os oedd yn briod, bydd ei wraig yn cael mynd gydag e.
4 Os mai ei feistr roddodd wraig iddo, a hithau wedi cael plant, mae'r wraig a'i phlant yn aros gyda'r meistr, a'r gwas yn gadael ar ei ben ei hun.
5 Ond falle y bydd y gwas yn dweud, ‘Dw i'n hapus gyda fy meistr, fy ngwraig a'm plant – dw i ddim eisiau bod yn ddyn rhydd.’
6 Os felly, bydd rhaid i'r meistr fynd i'w gyflwyno o flaen Duw. Wedyn bydd y meistr yn mynd ag e at y drws neu ffrâm y drws, ac yn rhoi twll trwy glust y gwas gyda mynawyd, i ddangos ei fod wedi dewis gweithio i'w feistr am weddill ei fywyd.