12 Os ydy rhywun yn taro person arall a'i ladd, y gosb ydy marwolaeth.
13 Os digwyddodd y peth trwy ddamwain, heb unrhyw fwriad i ladd, dw i'n mynd i drefnu lle saff i'r lladdwr ddianc iddo.
14 Ond os oedd bwriad clir i ladd y person arall, cewch lusgo'r llofrudd i ffwrdd a'i ddienyddio, hyd yn oed os oedd e wedi dianc at fy allor i.
15 Os ydy rhywun yn taro ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.
16 Os ydy rhywun yn herwgipio person arall, i'w werthu neu i'w ddal yn gaeth, y gosb ydy marwolaeth.
17 Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.
18 Dyma sydd i ddigwydd os bydd dynion yn ymladd, ac un yn taro'r llall gyda charreg neu gyda'i ddwrn nes ei anafu a'i adael yn orweddog, ond heb ei ladd: