23 Ond os ydy'r wraig ei hun yn cael niwed difrifol, rhaid i'r gosb gyfateb: Y ddedfryd fydd, bywyd am fywyd,
24 llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,
25 llosg am losg, anaf am anaf, clais am glais.
26 Os ydy rhywun yn taro ei gaethwas neu ei forwyn yn ei lygad, a'i ddallu, rhaid gadael iddo fe neu hi fynd yn rhydd, fel iawndal am golli ei lygad.
27 Os ydy e'n taro dant ei gaethwas neu ei forwyn allan, mae'r gwas neu'r forwyn i gael mynd yn rhydd, fel iawndal am y dant.
28 Os ydy dyn neu wraig yn marw am fod tarw wedi ei gornio, rhaid lladd yr anifail drwy daflu cerrig ato, a dydy'r cig ddim i gael ei fwyta. Fydd y perchennog ddim yn cael ei gosbi.
29 Ond os oedd y tarw wedi cornio rhywun o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid i'r tarw gael ei ladd a rhaid i'r perchennog farw hefyd;